top of page

Telerau ac Amodau

1. Diffiniadau

Yn y telerau ac amodau hyn, ym mhob achos, mae’r term “Arddangosfa” yn cyfeirio at yr arddangosfa a nodir ar y ffurflen Cofrestru Arddangoswyr. Mae’r term “Arddangoswr” yn cynnwys unrhyw unigolyn, ffỳrm neu gwmni a’i weithwyr ac asiantiaid y neilltuwyd lle ar eu cyfer at ddibenion arddangos yn y digwyddiad hwn.  Mae’r term “Trefnyddion yr Arddangosfa” yn golygu Production 78 Limited, rhif cwmni 04316263, sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 1 Waterton Buildings, Stad Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, CF31 1TR. Mae’r term “Eiddo” yn cyfeirio at y rhannau hynny o’r lleoliad penodol sydd wedi’u trwyddedu ar gyfer Trefnyddion yr Arddangosfa. Mae’r term “Parti” yn cyfeirio at rywun sydd wedi arwyddo’r cytundeb hwn (a dehonglir “Partïon” i’r un perwyl).

 

2. Gosod a chlirio arddangosiadau

Bydd yr Arddangoswr yn cael gwybod gan Drefnyddion yr Arddangosfa pryd y gall ddechrau gosod a threfnu arddangosion. Gwaherddir yr Arddangoswr rhag dechrau’r cyfryw waith gosod tan yr adeg y’i hysbyswyd gan Drefnyddion yr Arddangosfa. Bydd Trefnyddion yr Arddangosfa’n defnyddio pob ymdrech resymol i gadw at y dyddiad a hysbyswyd ar gyfer y gwaith gosod gan yr Arddangoswr, ond ni fyddant yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am unrhyw gostau, hawliadau neu dreuliau o ganlyniad i unrhyw amrywiad i’r cyfryw ddyddiad (ac ni fydd amser yn hanfodol).

Caiff arddangosion nad ydynt yn rhesymol yn bodloni Trefnyddion yr Arddangosfa eu haddasu gan yr Arddangoswr ar unwaith, yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser sy’n ofynnol gan Drefnyddion yr Arddangosfa, ac yn niffyg hynny, gall Trefnyddion yr Arddangosfa symud y cyfryw arddangosion ar draul yr Arddangoswr a fydd yn fforffedu pob swm a dalwyd ar ffurf blaendal, rhent neu fel arall.

Ni chaiff arddangosiadau eu clirio gan yr Arddangoswr hyd nes y bydd yr Arddangosfa wedi cau. Rhaid gwneud unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer gosod neu glirio arddangosiadau mewn ymgynghoriad â Threfnyddion yr Arddangosfa, a’r Arddangoswr yn unig fydd yn talu costau unrhyw drefniadau arbennig a gytunir (os o gwbl).

 

3. Adeiladu Stondinau a Gwasanaethau ar gyfer Stondinau

Bydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn penodi contractwyr swyddogol ar gyfer holl waith adeiladu’r stondinau, yr holl waith trydanol a’r holl gyflenwadau dodrefn, ac mae’r Arddangoswr yn cytuno i gydweithredu â’r cyfryw gontractwyr yn ôl hynny y gellir ei fynnu’n rhesymol. O ran unrhyw ddyluniadau y bydd Arddangoswr yn eu hadeiladu ei hun (arddangosiadau sy’n gofyn am le yn unig), neu waith a gyflawnir gan gontractwyr trydydd parti, rhaid eu cymeradwyo gan Drefnyddion yr Arddangosfa ymlaen llaw ac erbyn unrhyw derfynau amser penodol.

 

4. Cais

Bydd gan Drefnyddion yr Arddangosfa yr hawl i wrthod unrhyw gais neu wahardd unrhyw arddangosiad heb roi unrhyw reswm dros y cyfryw wrthodiad neu waharddiad.

Ni chaiff Arddangoswr, ac eithrio trwy ganiatâd ysgrifenedig datganedig Trefnyddion yr Arddangosfa, arddangos, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, hysbysebu neu roi cydnabyddiaeth i unrhyw gynhyrchion ar wahân i’w gynhyrchion ei hun neu gynhyrchion ei brif gwmni sydd wedi’i enwi. Ni chaniateir arddangos cydnabyddiaeth sy’n dangos aelodaeth o sefydliadau neu gymdeithasau masnach ac eithrio trwy ganiatâd ysgrifenedig datganedig Trefnyddion yr Arddangosfa. Bydd gan Drefnyddion yr Arddangosfa yr hawl i drefnu i guddio neu symud o’r Eiddo unrhyw gynnyrch neu arwydd sy’n torri’r amod hwn.

 

5. Canslo

Ariennir y digwyddiad hwn yn llawn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu y gellir ei fynychu’n rhad ac am ddim. Oherwydd nifer gyfyngedig y lleoedd sydd ar gael, os nad ydych yn gallu mynychu, byddwch yn ein hysbysu o hynny o leiaf 30 diwrnod cyn y digwyddiad.

Rhaid canslo a gwneud newidiadau i’ch archeb wreiddiol yn ysgrifenedig i Drefnyddion yr Arddangosfa yn events@production78.co.uk

Bydd hyn yn ein galluogi i gynnig eich lle i fusnesau ar ein rhestr aros.

​

6. Ansolfedd, Ymddiddymu ac ati

Petai’r Arddangoswr yn mynd yn fethdalwr neu’n ymddiddymu, neu drefniant cyfatebol (ar wahân i ymddiddymiad gwirfoddol at ddibenion uno neu ailffurfio), neu’n penodi derbynnydd, bydd gan Drefnyddion yr Arddangosfa’r hawl i derfynu’r cytundeb â’r Arddangoswr ar unwaith, a chaiff y lle a neilltuwyd ar gyfer ei stondin ei ganslo. 

​

7. Meddiannu Stondin a Staffio

Gall yr Arddangoswr, a’i asiantiaid, ei weithwyr a’i gontractwyr fynd i mewn i’r adeilad ar adeg y’i hysbyswyd iddynt at ddibenion addurno a gosod y stondin. Os na fydd Arddangoswr yn meddiannu ei stondin, mae gan Drefnyddion yr Arddangosfa yr hawl i ailneilltuo’r stondin a chaiff yr holl arian a dalwyd ei fforffedu. Rhaid i’r Arddangoswr staffio ei stondin arddangos drwy gydol yr oriau arddangos, yn ôl hynny y’i hysbyswyd gan Drefnyddion yr Arddangosfa. Rhaid clirio holl arddangosiadau, arddangosfeydd, ffitiadau a deunyddiau’r stondin erbyn yr amser a’r dyddiad a nodwyd gan Drefnyddion yr Arddangosfa. Ni chaniateir i waith clirio a datgymalu arddangosiadau ddechrau tan ar ôl yr amser cau swyddogol, oni chafwyd caniatâd ymlaen llaw gan Drefnyddion yr Arddangosfa.

 

8. Rhwystro Tramwyfeydd a Mannau Agored

Ni chaniateir i’r Arddangoswr arddangos arddangosiadau mewn cyfryw fodd sy’n rhwystro golau neu’n amharu ar dramwyfeydd neu’n estyn allan iddynt neu’n effeithio arddangosfeydd arddangoswyr cyfagos. Bydd yr Arddangoswr yn sicrhau y cedwir tramwyfeydd yn glir ac y gellir eu pasio’n rhwydd, a chedwir allanfeydd argyfwng a mynedfeydd i fannau gwasanaeth yn glir bob amser, ac ni cheir eu cyfyngu neu wneud unrhyw beth sy’n golygu na ellir eu hadnabod. Bydd yr Arddangoswr yn sicrhau y bydd tramwyfeydd cyhoeddus yn parhau i fod yn fodd i ddianc hyd yn oed yn ystod y cyfnodau paratoi a datgymalu. Os bydd Arddangoswr yn parhau i achosi rhwystr neu niwsans ar ôl rhoi rhybudd iddo, bydd gan Drefnyddion yr Arddangosfa yr hawl i gau’r stondin ar draul a risg yr Arddangoswr.

 

9. Dull o Gynnal Arddangosfeydd

Gall Trefnyddion yr Arddangosfa gyfyngu arddangosiadau sydd, oherwydd sŵn, gweithredoedd, arogleuon, gwisgoedd, gimics, dulliau gweithredu, deunyddiau neu sydd, am unrhyw reswm, yn dod yn annerbyniol i Drefnyddion yr Arddangosfa (sy’n gweithredu’n rhesymol). Lle’n bosibl, bydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn rhoi cyfle rhesymol i’r Arddangoswr adfer y sefyllfa. Yn achos y cyfryw gyfyngiad neu fod yr Arddangoswr yn cael ei droi allan o’r Arddangosfa, nid yw Trefnyddion yr Arddangosfa yn atebol am unrhyw ad-daliadau neu rent neu unrhyw dreuliau eraill yng nghyswllt yr arddangosfa.

 

10. Gofynion Trydanol

10.1 Dim ond contractwr trydanol a benodwyd yn swyddogol gan Drefnyddion yr Arddangosfa a gaiff wneud unrhyw waith gosod trydanol.

10.2 O ran dyfeisiau trydanol sy’n amharu ar systemau radio neu deledu, rhaid eu troi i ffwrdd ar unwaith gan yr Arddangoswr os bydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn gofyn iddo wneud hynny.

10.3 Ni chaniateir i’r Arddangoswr ddefnyddio dyfeisiau trydanol fel potiau, peiriannau coffi, poptai trydan neu ffynonellau gwres tebyg dim ond os yw hynny’n cydymffurfio â manylebau’r rheoliadau cyfreithiol sy’n gymwys.

Cyn defnyddio’r cyfryw ddyfeisiau, rhaid i’r Arddangoswr gael caniatâd gan leoliad yr Arddangosfa. Rhaid eu rhoi ar waelodion anllosgadwy mewn cyfryw fodd sy’n sicrhau na fydd gwrthrychau cyfagos yn mynd ar dân.

10.4 Ni chaniateir i’r Arddangoswr ddefnyddio twymwyr tanddwr a thwymwyr trydanol a chanddynt elfen heb giard.

10.5 Bydd angen i’r Arddangoswr hysbysu ymlaen llaw os ydyw’n bwriadu defnyddio offer laser (gan gynnwys ei ddosbarthiad) a chael cymeradwyaeth swyddogol gan Drefnyddion yr Arddangosfa. Rhaid i’r Arddangoswr gyflwyno tystysgrifau profion a gyflwynwyd gan ganolfannau profi cydnabyddedig ar gyfer offer technegol i Drefnyddion yr Arddangosfa. Bydd gan Drefnyddion yr Arddangosfa yr hawl i bennu unrhyw amodau arbennig mewn achosion unigol. Rhaid i bob offer laser gydymffurfio â rheoliadau diogelwch y DU ar gyfer offer technegol, ynghyd ag unrhyw reoliadau technegol perthnasol eraill.

10.6 Bydd gwasanaethau goleuadau a phŵer llawn ar gael i’r Arddangoswr trwy’r contractwr trydanol swyddogol a benodir gan Drefnyddion yr Arddangosfa, a bydd rhestr o’r gwasanaethau hyn ar gael ar ôl cyflwyno cais.

Rhaid i’r Arddangoswr sicrhau bod ffitiadau a dyfeisiau trydanol yn cydymffurfio â’r safonau perthnasol sy’n gymwys, ac y bydd yn nodi cryfder y ffiws ar gyfer cyflenwad pŵer y stondin.

 

11. Deunyddiau ac Arddangosiadau Peryglus

Bydd yr Arddangoswr yn sicrhau ei fod yn cyfyngu’r defnydd o’r deunyddiau a ganlyn:

11.1 O ran defnyddiau a deunydd addurnol arall, rhaid profi eu bod yn rhai gwrth-fflam yn unol â DIN4102. Mae Trefnyddion yr Arddangosfa yn argymell y dylid cael y cadarnhad perthnasol gan y cwmni sy’n gyfrifol am gynnal gwaith addurno neu osod y stondin.

11.2 Gwaherddir y defnydd o falwnau sydd wedi’u llenwi â nwy fflamadwy.

11.3 Gwaherddir y defnydd o ffrwydron a deunyddiau llosgadwy peryglus.

11.4 Gwaherddir y defnydd o nwy propan, bwtan a rhai tebyg.

11.5 Gwaherddir y defnydd o hylifau fflamadwy.

 

12. Rhagofalon Tân

Bydd yr Arddangoswr yn sicrhau bod pob arddangosfa neu rannau ohonynt yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau iechyd, tân a diogelwch cymwys. Ni chaiff yr Arddangoswr ddefnyddio addurniadau llosgadwy fel papur crêp, papur sidan (‘tissue paper’), cardboard neu bapur rhychiog ar unrhyw adeg. Bydd yr Arddangoswr yn sicrhau bod ei ddeunyddiau a hylifau fflamadwy yn cael eu cadw mewn cynwysyddion diogel.

Bydd yr Arddangoswr yn sicrhau na fydd yn rhwystro hydrantau ar waliau, diffoddyddion tân, larymau tân a hysbysiadau cyfarwyddiadau mewn unrhyw fodd, a’u bod yn weladwy ac yn gweithio trwy gydol yr amser. Rhaid i’r Arddangoswr gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir gan yr awdurdod priodol neu Drefnyddion yr Arddangosfa i osgoi’r perygl o dân.

 

13. Difrod i’r Eiddo

Bydd yr Arddangoswr yn sicrhau na fydd unrhyw hoelion, sgriwiau, deunyddiau gludiog neu ffitiadau eraill yn cael eu defnyddio ganddo (neu ei weithwyr, asiantiaid neu gontractwyr) neu eu gosod ganddo ar unrhyw ran o’r Eiddo, gan gynnwys y lloriau, ac na chaiff unrhyw ran o’r Eiddo ei ddifrodi neu ei ddifetha ganddo mewn unrhyw fodd. Petai unrhyw gyfryw ddifrod yn digwydd, caiff yr Arddangoswr ei anfonebu am unrhyw gostau atgyweirio a ysgwyddwyd.

 

14. Glanhau

Bydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn trefnu gwaith glanhau dyddiol y tu hwnt i oriau agor yr arddangosfa (bydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn rhoi gwybod beth yw’r oriau agor hyn).

 

15. Gwasanaethau Diogelwch

Bydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn trefnu gwasanaeth diogelwch cyffredinol ar gyfer y safle yn ystod cyfnod yr Arddangosfa, ond ni fydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu ddifrod a gafwyd neu a achoswyd o ganlyniad i ba achos bynnag, ac eithrio bo hynny o ganlyniad i esgeulustod Trefnyddion yr Arddangosfa eu hunain.

 

16. Storio

Bydd yr Arddangoswr yn storio deunyddiau pacio ar ei stondin arddangos ac nid yn unman arall o fewn y Neuadd Arddangos.

 

17. Atebolrwydd

Tra bydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn ymdrechu i ddiogelu eiddo’r arddangosfa yn ystod ei arddangos yn yr Arddangosfa, rhaid deall yn glir na fydd rheolwyr yr Eiddo, na Threfnyddion yr Arddangosfa, yn atebol am unrhyw golled, treuliau, costau neu ddifrod (sy’n cynnwys ond nid wedi’i gyfyngu i unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli elw, colli enw da ac unrhyw log, cosbau, costau cyfreithiol, difrod i eiddo a’r holl gostau a threuliau proffesiynol eraill) a gafwyd neu a achoswyd o ganlyniad i ba achos bynnag, ac eithrio bo hynny o ganlyniad i esgeulustod Trefnyddion yr Arddangosfa eu hunain.

Bydd yr Arddangoswr yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i eiddo ac am unrhyw golled neu anaf a achoswyd ganddo ef neu ei asiantiaid neu weithwyr, a bydd yr Arddangoswr yn indemnio ac yn digolledu Trefnyddion yr Arddangosfa yn erbyn yr holl atebolrwydd, costau, treuliau, difrod a cholledion (sy’n cynnwys ond nid wedi’i gyfyngu i unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli elw, colli enw da ac unrhyw log, cosbau, costau cyfreithiol, difrod i eiddo a’r holl gostau a threuliau proffesiynol eraill) sy’n codi o ganlyniad i’r holl hawliadau a threuliau neu sy’n gysylltiedig â hwy.

 

18. Canslo, Gohirio’r Arddangosfa ac ati

Yn achos bod angen rhoi’r gorau i’r Arddangosfa neu ei gohirio, ei chanslo neu ei newid mewn unrhyw fodd am ba reswm bynnag, yn ei chyfanrwydd neu’n rhannol (gan gynnwys, heb gyfyngiad, o ganlyniad i ymyriad gan unrhyw awdurdod, neu ddigwyddiad force majeure yn unol â chymal 24), bydd gan Drefnyddion yr Arddangosfa yr hawl i ganslo’r Arddangosfa, newid dyddiad yr Arddangosfa, a/neu gyfyngu ar y defnydd o’r Eiddo. Bydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn hysbysu’r Arddangoswr ynghylch hyn cyn gynted â phosibl. Bydd y partïon yn cytuno:

18.1 na fydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn torri’r cytundeb hwn yn rhinwedd rhoi’r gorau i’r arddangosfa, ei gohirio, ei chanslo neu ei newid; a 18.2 ni fydd Trefnyddion yr Arddangosfa yn atebol am unrhyw golled a gaiff yr Arddangoswr neu unrhyw drydydd parti o ganlyniad i roi’r gorau i’r arddangosfa, ei gohirio, ei chanslo neu ei newid.

 

19. Yswiriant

Bydd yr Arddangoswr yn ymgynghori â’i gwmni yswiriant a/neu ei frocer yswiriant i sicrhau ei fod wedi’i yswirio’n llawn yn erbyn yr holl risgiau yn yr Arddangosfa, ac yn sicrhau y bydd o leiaf yn rhoi’r yswiriannau a ganlyn ar waith:

19.1 Yswiriant ar gyfer Rhoir Gorau i’r Arddangosfa: bydd yr Arddangoswr yn nodi yng nghymalau 5 a 18 yr amgylchiadau cyfyngedig y cyflwynir ad-daliadau / credydau yn achos rhoi’r gorau i’r arddangosfa / ei chanslo.

19.2 Yswiriant ar gyfer Stondinau, Ffitiadau neu Debyg: Yr holl risgiau yng nghyswllt colli, dwyn neu ddifrodi eiddo, gosodiadau, ffitiadau ac unrhyw eiddo arall o natur debyg, fel eiddo personol cyfarwyddwyr, prif swyddogion, gweithwyr, asiantiaid a chontractwyr yn ystod eu hamser yn yr Eiddo, ynghyd ag unrhyw risgiau wrth deithio yn ôl ac ymlaen i eiddo’r Arddangoswr.

19.3 Atebolrwydd Cyhoeddus: Gall atebolrwydd i’r cyhoedd godi o ganlyniad i weithgareddau’r Arddangoswr a rhaid eu hyswirio’n briodol.

Dylid sicrhau bod modd rhoi’r yswiriant ar waith yn ddi-oed ac, ym mhob achos, o ran unrhyw hawliad unigol, neu gyfres o hawliadau cysylltiedig, ni ddylai fod yn llai na £2,000,000.

 

20. Terfynu

Heb effeithio unrhyw hawl neu rwymedi sydd ar gael iddo, gall Trefnyddion yr Arddangosfa derfynu’r cytundeb hwn ar unwaith trwy hysbysiad ysgrifenedig i’r Arddangoswr, a heb atebolrwydd neu ad-daliad:

21.1 os yw’r Arddangoswr yn cyflawni achos sylweddol o dorri unrhyw un o delerau’r cytundeb hwn ac (os oes modd unioni’r achos hwnnw) yn methu ag unioni’r achos hwnnw o fewn cyfnod o 7 diwrnod ar ôl cael ei hysbysu’n ysgrifenedig i wneud hynny;

21.2 os yw’r Arddangoswr yn torri unrhyw delerau o fewn y cytundeb hwn dro ar ôl tro, mewn modd sydd, yn rhesymol, yn cyfiawnhau’r farn bod ei ymddygiad yn anghyson â bwriad neu allu ganddo i weithredu telerau’r cytundeb hwn; ac

21.3 os yw’r Arddangoswr yn dioddef digwyddiad sy’n ddigon tebyg i hynny a nodir yng nghymal 6, neu’n cael ei effeithio ganddo.

 

21. Amodau Cyffredinol

Mae’r Arddangoswr yn gyfrifol am reoli a goruchwylio ei stondin ei hun a’i gyffiniau. Mae penderfyniad Trefnyddion yr Arddangosfa (sy’n gweithredu’n rhesymol) yn derfynol ac yn bendant o ran unrhyw faterion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cytundeb hwn.

 

22. Hysbysiadau

22.1 Bydd unrhyw hysbysiad a roddir i Barti o dan y cytundeb hwn neu mewn cysylltiad ag ef yn cael ei gyflwyno’n ysgrifenedig a chaiff:

22.1.1 ei ddanfon trwy law neu trwy wasanaeth post dosbarth cyntaf rhagdaledig neu unrhyw wasanaeth danfon erbyn y diwrnod gwaith nesaf i’w swyddfa gofrestredig (os ydyw’n gwmni) neu ei brif leoliad busnes (mewn unrhyw achos arall); neu

22.1.2 ei ddanfon trwy e-bost at y cyfeiriad a hysbyswyd yn ysgrifenedig gan y Parti perthnasol.

22.2 Ystyrir y bydd unrhyw hysbysiad wedi’i dderbyn:

22.2.1 os cafodd ei ddanfon trwy law, ar yr adeg y gadawyd yr hysbysiad yn y cyfeiriad cywir;

22.2.2 os cafodd ei ddanfon trwy wasanaeth post dosbarth cyntaf rhagdaledig, gwasanaeth danfon erbyn y diwrnod gwaith nesaf, am 9.00 o’r gloch y bore ar yr ail ddiwrnod ar ôl ei bostio; neu, os cafodd ei ddanfon trwy e-bost, ar adeg ei drosglwyddo, neu, os ydyw’r amser hwn y tu hwnt i oriau busnes yn y lleoliad sy’n ei dderbyn, pan fydd yr oriau busnes yn ailddechrau. Yn y cymal 22.2 hwn, mae oriau busnes yn golygu 9.00 o’r gloch y bore i 5.00 o’r gloch y prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar unrhyw ddiwrnod nad yw’n wyliau cyhoeddus yn y lleoliad sy’n ei dderbyn.

 

23. Force Majeure

Ni fydd y naill Barti na’r llall yn torri’r cytundeb hwn neu’n atebol am unrhyw oedi o ran cyflawni, neu fethiant i gyflawni, unrhyw rai o’i rwymedigaethau o dan y cytundeb hwn (ac eithrio rhwymedigaeth yr Arddangoswr i dalu arian pan yn ddyledus) os cafwyd unrhyw oedi neu fethiant o ganlyniad i ddigwyddiadau, amgylchiadau neu achosion sydd y tu hwnt i’w reolaeth resymol.

 

24. Toradwyedd

Os bydd unrhyw ddarpariaeth neu ran o ddarpariaeth o fewn y cytundeb hwn yn dod yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, ystyrir ei bod wedi’i dileu, ond ni fydd hynny’n effeithio dilysrwydd a gorfodadwyedd gweddill y cytundeb hwn.

 

25. Y Gyfraith Lywodraethol ac Awdurdodaeth 

Caiff y cytundeb hwn ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n codi o ganlyniad iddo, neu sy’n gysylltiedig ag ef neu ei destun, eu llywodraethu gan gyfreithiau Lloegr a Chymru ac fe’i dehonglir yn unol â’r rheiny. Mae pob Parti’n cytuno, yn ddi-alw’n-ôl, y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw i ddatrys unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n codi o ganlyniad i’r cytundeb hwn neu mewn cysylltiad ag ef.

 

26. Newidiadau i’r Telerau ac Amodau

Bydd gan Drefnyddion yr Arddangosfa yr hawl i wneud ychwanegiadau at y cytundeb hwn neu i’w ddiwygio at ddibenion cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth statudol neu, gan weithredu’n rhesymol, i sicrhau arferion da’r diwydiant o ran rheoli digwyddiadau ac arddangosfeydd. Bydd yr Arddangoswr wedi’i rwymo gan unrhyw newid neu ddiwygiad os caiff telerau’r cyfryw newidiadau neu ychwanegiadau eu mynegi’n ysgrifenedig iddo gan Drefnyddion yr Arddangosfa. Ni fydd unrhyw amrywiad i’r cytundeb hwn yn dod i rym oni chymeradwywyd hynny’n ysgrifenedig gan Drefnyddion yr Arddangosfa.

​

bottom of page