top of page

Myrddin Davies

Myrddin Davies

Ymgynghorydd Bwyd a Ffermio

Agrisgôp

Mae gan Myrddin ugain mlynedd o brofiad yn cefnogi a hwyluso busnes, y gadwyn fwyd a datblygiad masnach gyda mentrau bwyd a diod Cymreig. Sefydlodd ei Ymgynghoriaeth Bwyd a Ffermio ei hun yn 2018 ac mae’n gweithio ar nifer o fentrau datblygu masnach gyda brandiau Cymreig.

Mae ei waith presennol yn cynnwys menter Larder Cymru Bwyd o Gymru i Ysgolion a phrosiect Economi Sylfaenol sy'n cefnogi’r gwaith adolygu a chyflwyno mwy o gynhyrchion gan gyflenwyr a chynhyrchwyr Cymreig i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.

bottom of page