top of page

Hysbysiadau Preifatrwydd

Sail Gyfreithiol dros Brosesu

Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data yma yn unol gyda thasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru.

​

Cynnwys y Prosesu

Cyfranogwyr sy'n mynychu digwyddiadau.

 

Hyd y Prosesu

Bydd Data sy'n cael ei brosesu at bwrpas y digwyddiad yn digwydd o 1af Gorffennaf 2024 i 31ain Ionawr 2025.

​

Lleoliad y Prosesu

Bydd y data'n cael ei brosesu a'i storio o fewn y DU.

 

Natur y Prosesu

Cysylltu perchnogion busnesau bach a chanolig o Gymru sydd ag arddangoswyr busnes o Gymru gydag arddangoswyr eraill yn y digwyddiad.

 

Bydd y data'n cael ei gasglu gan Production 78 (is-gontractwr / prosesydd data) ar ran Llywodraeth Cymru (rheolwr data).

 

Pwrpas y Prosesu

Cysylltu perchnogion busnesau bach a chanolig o Gymru sydd ag arddangoswyr busnes o Gymru gydag arddangoswyr eraill yn y digwyddiad.

​

Y math o Ddata Personol fydd yn cael ei Brosesu

Mae'r math o Ddata Personol fydd yn cael ei brosesu a'i gofnodi yn cynnwys enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad gartref a Chyfeiriad Anfonebu.

 

 

Byddwn hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu Data Cyfanredol megis data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw bwrpas. Gall data cyfanredol ddeillio o'ch data personol, ond nid yw'n cael ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan nad yw'r data yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, mae'n bosib y byddem yn crynhoi'ch data defnyddio er mwyn cyfrifo canran y defnyddwyr sy'n cael mynediad i nodwedd gwefan benodol. Fodd bynnag, os ydym yn cyfuno neu'n cysylltu data sydd wedi'i grynhoi gyda'ch data personol fel bod modd eich adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfunol fel data personol a bydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn.

 

Nid ydym yn casglu unrhyw Gategorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch chi (mae hyn yn cynnwys manylion am eich hil neu ethnigrwydd, daliadau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth am eich iechyd a data genetig a biometrig). Nid ydym ychwaith yn casglu unrhyw wybodaeth am euogfarnau a throseddau.

 

Categorïau o Bwnc Data

Perchnogion Busnesau lleol  

 

Dylech gynllunio i ddychwelyd a/neu ddifa'r data unwaith mae'r prosesu wedi'i gwblhau ONI BAI bod gofyn o dan gyfraith yr undeb neu gyfraith aelod-wladwriaeth i gadw'r maeth yna o ddata.

​Bydd pob data gan arddangoswyr a mynychwyr oddi ar dudalen gwe'r digwyddiad yn cael ei ddileu a'i drosglwyddo i Fusnes Cymru heb fod y tu hwnt i 6 mis wedi i'r digwyddiad ddod i ben. Bydd eich data wedyn yn cael ei rannu gyda Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru a fydd yn cadw'r data yn unol â'u polisi preifatrwydd hwy.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol am isafswm o 10 mlynedd ar ôl i'r prosiect ddod i ben, at bwrpasau archwilio, ac ar ôl y cyfnod hwnnw bydd yn cael ei waredu'n ddiogel. 

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau cadarnhad ysgrifenedig gan y contractwr bod y data wedi cael ei ddileu.

 

​

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data a Production 78 yw'r prosesydd data.

 

​

Yn cyfeirio at:

 

Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:

  • Gael mynediad at y data Personol yr ydym yn ei brosesu amdanoch chi;

  • Gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • Yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu;

  • Yr hawl i'ch data gael ei 'ddileu' neu i dynnu caniatâd yn ei ôl ar unrhyw bryd, drwy wneud cais ysgrifenedig am hyn i'r swyddog gwarchod data (manylion isod);

  • Cofnodi cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gwarchod data.

​

Am ragor o fanylion ynghylch y wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os ydych chi eisiau ymarfer eich hawliau, gweler y manylion cyswllt isod os gwelwch yn dda:

 

  • Swyddog Gwarchod Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

  • E-bostiwch:  Data.ProtectionOfficer@gov.wales

  • Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Cyfeiriad: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.

Gwefan: www.ico.org.uk

bottom of page