top of page

Cofrestru Arddangoswr

Croeso i Dudalen Cofrestru Arddangoswr ar gyfer Expo Busnes Cymru: Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr! I gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn a ariennir yn llawn, rhaid i chi fod yn brynwr yng Nghymru â chyfleoedd byw, a bod yn barod i rannu eich piblinellau ymlaen llaw fel y gallwn eich paru â BBaChau addas. Sylwch nad yw llenwi'r ffurflen gofrestru hon yn addewid o le yn yr Expos. Mae'r digwyddiadau hyn yn targedu'r economi sylfaenol yn benodol, gan ganolbwyntio ar brynwyr sydd â chyfleoedd mewn sectorau fel adeiladu, gofal iechyd, manwerthu, trafnidiaeth, logisteg, cynhyrchu bwyd, cyflenwi bwyd, cyfleustodau, rheoli gwastraff, addysg, a mwy.

​

Ariennir y digwyddiadau hyn gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cynnig llwyfan heb ei thebyg ichi arddangos eich cyfleoedd, ehangu eich cadwynau cyflenwi lleol, a sefydlu cysylltiadau gwerthfawr â BBaChau ledled Cymru. Edrychwn ymlaen i'ch cynnwys yn y digwyddiad!

Manylion y Cyfrif

Rhowch gyfeiriad e-bost dilys a chreu cyfrinair i'w ddefnyddio i fewngofnodi i'r wefan hon.

Manylion y Sefydliad

Rhowch fanylion eich sefydliad isod.

Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan y digwyddiad.

Bydd cynnwys Cymraeg yn cael ei arddangos ar fersiwn Gymraeg y wefan.

Bydd cynnwys Saesneg yn cael ei arddangos ar fersiwn Saesneg y wefan.

Lanlwytho Logo

blank profile_edited.jpg
Logo'r Sefydliad (Cymraeg)
blank profile_edited.jpg
Logo'r Sefydliad (Saesneg)

Manylion Cyswllt Stondin ar gyfer Codau QR

Rhowch fanylion cyswllt eich Prynwr isod.

Dylai hwn fod yn unigolyn sy'n cydsynio i gyflenwyr gysylltu â nhw yn dilyn y digwyddiadau.

Bydd y manylion hyn ond yn cael eu trosglwyddo i unrhyw ymwelwyr sy'n sganio'ch cod QR yn y digwyddiadau.

Cysylltiadau Trefnydd Stondin

Rhowch fanylion cyswllt trefnydd stondin eich Prynwr isod.

Dylai hwn fod yn unigolyn a fydd ar y safle yn y digwyddiadau. Ni fydd y rhain yn cael eu cyhoeddi na'u trosglwyddo i unrhyw ymwelwyr yn y digwyddiadau.

 

Sylwer:

Dim ond 2 aelod o staff a ganiateir ar bob stondin oherwydd y lle sydd ar gael. Nid oes cyfyngiad ar nifer y cofrestriadau mynychwyr felly os ydych angen mwy o staff i fynychu'r digwyddiad yna gellir cofrestru'r rhain fel mynychwyr yn ddiweddarach.

Bydd manylion pellach yn cael eu hanfon at yr holl arddangoswyr pan fydd cofrestriadau mynychwyr yn agor.

Detholiad Mynychu Lleoliad

Dewiswch y lleoliad neu'r lleoliadau yr hoffai eich sefydliad eu mynychu.

Gwybodaeth am Gyfleoedd Piblinell

Ychwanegwch eich cyfleoedd piblinell isod.

Mae angen i chi ddewis Categori Piblinell gan ddefnyddio'r Codau Geirfa Caffael Cyffredin (Codau CPV) isod ac ychwanegu brasamcan o werth y cyfle.

Bydd y rhain yn ymddangos ar wefan y digwyddiad ar dudalen eich stondin arddangos digidol a byddant hefyd yn cael eu hysbysebu i fynychwyr sy'n cofrestru gyda'r un dosbarthiad cod SIC.

Mae cael cyfleoedd ar y gweill yn amod mynychu'r digwyddiad hwn a ariennir. Mae'n rhaid i chi nodi o leiaf un nawr i gwblhau eich cofrestriad ond peidiwch â phoeni gallwch fewngofnodi yn nes ymlaen i ychwanegu mwy os nad ydych chi'n gwybod yr holl fanylion nawr.

Dechreuwch deipio yn y blwch isod i chwilio'r gronfa ddata codau CPV.

Gallwch ddod o hyd i restr gyflawn o godau CPV yma.

Pan fyddwch wedi dewis y categori yn gywir, bydd yn dangos o dan y blwch.

Os yw'ch cyfle yn ymwneud â mwy nag un categori, gallwch naill ai glirio'r blwch a dechrau chwilio am gategori arall, neu gallwch ddewis ychwanegu cyfle piblinell arall gyda'r un teitl fel y gallwch nodi gwerthoedd gwahanol ar gyfer pob cod.

Categorïau a Ddewiswyd

message

Caniatâd Rhannu Cyswllt Hanfodol

message

Sylwch y bydd unrhyw adrannau anorffenedig wedi'u hamlygu'n las.

bottom of page